Safle monitro a ddewiswyd gennych » Little Warren Weather
![]() |
![]() |
|
Safleoedd | Cefndir Trefol | |
![]() |
![]() |
|
Maestrefol/Gwledig | Diwydiannol | |
Dangos safleoedd sydd wedi cau | ||
ARhAA Castell-nedd Port Talbot |
Esbonio Gwahaniaethau Gronynnol |
---|
Mae llygredd gronynnol yn wahanol iawn i'r holl lygryddion eraill oherwydd ni ellir ei ddiffinio fel nwy neu gemegyn unigol. Mae'n cynnwys cymysgedd o ronynnau bach sy'n amrywio'n barhaus o sawl ffynhonnell wahanol, a phriodweddau gwahanol iawn i bob un. Gall y gronynnau amrywio o ran maint, siâp, nifer, gwenwyndra a chyfansoddiad cemegol. Mae'r dasg o fonitro crynodiadau felly'n anodd iawn. |
Datblygwyd sawl dull monitro gwahanol iawn, a phob un ohonynt â'i fanteision a'i anfanteision ei hun. Gan fod pob dull mor wahanol, nid yw data o bob dull o fonitro gronynnol yn uniongyrchol gymharol. Ble bynnag y bo'n bosib, rydym wedi nodi pa fath o ddadansoddydd a ddefnyddiwyd ar bob safle. Dylid bod yn ofalus iawn wrth gymharu canlyniadau o ddulliau gwahanol. |
Y dull mwyaf cyffredin a hir sefydledig o fonitro llygredd gronynnol yw drwy 'Ficroglorian Osgiladol Elfen Daprog (TEOM). Mae'r llywodraeth yn gosod gwerthoedd y Mynegai Llygredd Aer a'r Bandiau (y raddfa 1 i 10 a'r bandiau 'isel', 'cymedrol', 'uchel', ac 'uchel iawn') yn ôl y dull hwn. Ni ellir defnyddio data gronynnol a gasglwyd drwy ddulliau eraill ('BAM' neu 'APM') yn y cyfrifiadau hyn. |
Mae'r Undeb Ewropeaidd wedi mabwysiadu dull arall - y dull 'Grafimetrig' - fel safon. Mae Llywodraeth y DU yn cynghori defnyddio ffactor trawsnewid sylfaenol o 1.3 i drawsnewid canlyniadau o ddadansoddyddion TEOM i'r dull 'cyfeirio' Ewropeaidd hwn a ffactor o 0.83 i drawsnewid canlyniadau o ddadansoddyddion BAM. Felly, lluosir holl ganlyniadau PM10 gronynnol o ddadansoddyddion TEOM gan 1.3, a holl ddadansoddyddion BAM gan 0.83 wrth lunio cyfrifiadau Nodau Ansawdd Aer. |
Ewch yn ôl i dudalen fanylion y wefan |