Dosbarthiadau'r Safleoedd Monitro
![]() |
![]() |
Safleoedd | Cefndir Trefol |
![]() |
![]() |
Maestrefol/Gwledig | Diwydiannol |
Dangos safleoedd sydd wedi cau |
Dosbarthiadau'r Safleoedd Monitro | ||
---|---|---|
Rhennir y safleoedd monitro yn chwe dosbarth gwahanol, yn ôl pa mor agos ydynt at ffynonellau llygredd sylweddol. | ||
Safleoedd | ![]() |
Ymyl Ffordd gyda mewnfeydd samplo o fewn 1m o ymyl ffordd brysur. Mae uchder y samplo o fewn 2-3m o'r ddaear. |
Safleoedd | ![]() |
Ymyl Ffordd gyda mewnfeydd samplo rhwng 1m a 5m o ymyl y ffordd. Mae uchder y samplo o fewn 2-3m o'r ddaear. |
Cefndir Trefol | ![]() |
Lleoliadau trefol ymhell o ffynonellau sylweddol ac yn fras yn cynrychioli crynodiadau cefndir tref/dinas, e.e. ardaloedd preswyl trefol. |
Maestrefol | ![]() |
Safleoedd sy'n nodweddiadol o ardaloedd preswyl ar gyrion tref neu ddinas. |
Gwledig | ![]() |
Lleoliadau gwledig ymhell o ganolfannau poblog mawr, ffyrdd, ardaloedd diwydiannol neu ffynonellau llygredd eraill. |
Diwydiannol | ![]() |
Safleoedd lle mae allyriadau diwydiannol yn cyfrannu'n sylweddol at lefelau llygredd. |
Bydd holl ddosbarthiadau'r safleoedd yn cofnodi lefelau llygredd y gellir ystyried eu bod yn fras yn cynrychioli lleoliadau tebyg gerllaw. Er enghraifft, bydd safle 'cefndir trefol' mewn ardal drefol yn cofnodi lefelau tebyg i'r rheiny a geir mewn ardaloedd preswyl cyfagos, tra bod safle 'Ymyl ffordd' yn cofnodi lefelau sy'n cynrychioli'r rheiny ger ffyrdd o faint cymharol. Dylid bod yn ofalus iawn wrth gymharu canlyniadau o safleoedd o ddosbarthiadau gwahanol. | ||
Ewch yn ôl at fanylion y safleoedd |